Gweithgareddau

Prif amcan y Cylch yw hybu dysgu drwy chwarae, mewn awyrgylch gynnes a chefnogol.  Mae pwyslais arbennig yn cael ei roi ar ddatblygiad ieithyddol pob plentyn ynghyd ag agweddau personol, cymdeithasol ac emosiynol.
 

Yn fras, rhennir y sesiynau yn ddwy ran:

  1. Cyfnod o weithgaredd strwythuredig gyda byrbryd i ddilyn
  2. Chwarae rhydd wedi’i oruchwylio hyd at ddiwedd y sesiwn

Mae’r gweithgareddau strwythuredig yn cynnwys paentio, blocaiau, lliwio, fideos, jigsos, dawnsio, clai, cerddoriaeth, tywod, amser stori, dŵr a chwarae dychmygol.

Mae’r Arweinydd yn paratoi cynlluniau gwaith ar gyfer bob hanner tymor . Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion chwe maes Canllawiau’r Senedd Cymru  ar gyfer plant cyn ysgol:

  • Datblygiad Creadigol
  • Datblygiad Corfforol
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
  • Datblygiad Rhifedd
  • Datblygiad Cymdeithasol
  • Sgiliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd

Rhoddir pob cymorth i bob plentyn  gyrraeddRydym elusen, rhif 504582
Rydym rhan o’r Mudiad Meithrin ei botensial/photensial. Mae croeso i rieni/gwarcheidwaid drafod y cynlluniau hyn gyda’r arweinydd unrhyw amser.