Mae Cylch Meithrin y Parc yn darparu gofal blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg o 2 oed i oed cyn ysgol. Rydym wedi ein lleoli yn Clwb Pel-Foli Traeth Caerdydd ym Mharc Victoria, Treganna, ac yn darparu awyrgylch croesawgar, llawn anogaeth. Rydym ni’n rhoi cyfle i’r plant ddysgu drwy chwarae, o dan arweiniad staff cymwys ac ymroddgar. Bydd plant (a rhieni) di-gymraeg neu rhai ag ychydig o Gymraeg ganddynt yn teimlo’r un mor gartrefol â phlant sy’n rhugl yn y Gymraeg.
- Mae sesiynau bore yn cael eu cynnal rhwng 08.30 – 11.30 Dydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol
- Mae sesiynau prynhawn yn cael eu cynnal rhwng 12.30 – 15.00 Dydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol
- Mae gofal cofleidiol ar gael i blant sy’n mynychu meithrinfa Treganna
- Rydym elusen, rhif 504582
- Rydym rhan o’r Mudiad Meithrin
- E-bost Cylch-y-parc@hotmail.co.uk