Cofrestru
Os hoffech chi roi enw eich plentyn ar gyfer lle yng Nghylch Meithrin y Parc, e-bostiwch Cylch-y-parc@hotmail.co.uk gyda’r manylion canlynol:
- Enw llawn y plentyn
- Dyddiad geni’r plentyn
- Cyfeiriad y plentyn
- Eich perthynas chi â’r plentyn
- Pa sesiynau sydd eu hangen ar gyfer y plentyn
Ffioedd
Sesiwn bore (8.30 – 11.30) – £13.50
Sesiwn prynhawn (12.30 – 15.00) – £11.25
Am gwybodaeth am gofal cofleidiol ar gyfer plant sy’n mynychu meithrinfa Ysgol Treganna – gweler dudalen ‘gofal cofleidiol’. Byddwn yn derbyn taliad ffioedd drwy drosglwyddiad rhyngrwyd yn unig. Taliadau erbyn y 15fed o bob mis.
*Mae plant 3 oed yn gymwys i gael addysg cyn ysgol am ddim, a gallwch roi cais i’r Awdurdod Lleol am Gyllido Blynyddoedd Cynnar os ydynt yn parhau yng Nghylch y Parc y tu hwnt i 3 oed.
- Rydym elusen, rhif 504582
- Rydym rhan o’r Mudiad Meithrin