Cefndir Cylch Meithrin
Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr addysg a gofal blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol. Mae dros 500 o gylchoedd Meithrin yng Nghymru, sy’n rhoi’r cyfle i tua 18,000 o blant i ddysgu drwy chwarae yn y Gymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol dwyieithog cynnar.
Cafodd Cylch Meithrin y Parc ei sefydlu yn 1984 o dan adain Mudiad Meithrin a chaiff ei arolygu yn rheolaidd gan ESTYN, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin.
Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gref rydym ni wedi’i meithrin gyda rhieni a gwarcheidwaid dros y blynyddoedd, ac mae gennym ni draddodiad cryf o ddarparu addysg cyn ysgol o safon uchel. Rydym yn croesawu’r rhieni/gwarcheidwaid i ymwneud â phob agwedd o fywyd Cylch Meithrin y Parc, ac, yn wir, rhieni sy’n bennaf gyfrifol am godi arian.
- Rydym elusen, rhif 504582
- Rydym rhan o’r Mudiad Meithrin