Cwestiynau cyffredinol

A oes lleiafswm/uchafswm o sesiynau y mae’n rhaid i fy mhlentyn fynychu?
Gall eich plentyn fynychu rhwng 1 a 5 sesiwn fel bo’r angen, ond rydym yn cynghori bod eich plentyn yn mynychu lleiafswm o ddau sesiwn yr wythnos fel eu bod setlo yn y Cylch yn gynt.

Oes rhaid i’m plentyn fod allan o glytiau/cewynnau?
Na. Rydym yn hapus i newid clytiau ond gofynnwn i rieni ddarparu clytiau, wipes ac eli clytiau fel y bo’r angen.  Rydym hefyd yn barod iawn i gynorthwyo mewn hyfforddiant toiled os bydd angen

A oes gwisg ffurfiol?
Does dim gwisg ffurfiol ond rydym yn gwerthu crysau-t Cylch y Parc.  Gofynnwn i chi wisgo eich plentyn mewn dillad sy’n addas ar gyfer chwarae ac sy’n hawdd eu tynnu i ffwrdd.  Mae llawer o chwarae yn creu llanast, felly gwnewch yn siwr bod dillad sbâr yn y bag ar gyfer newid os oes angen! Byddai o gymorth mawr pe byddech chi’n labelu dillad eich plentyn gyda’r enw.

Ydych chi’n darparu byrbryd?
Rhoddir byrbryd yn ystod y sesiwn.  Fel arfer caiff y plant ddarn o ffrwyth neu lysieuyn, caws a dŵr/laeth i’w yfed.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n hwyr yn dod i nôl fy mhlentyn?
Gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn dod i gasglu eich plentyn yn brydlon.  Rhoddir dirwy o £5 am bob 5 munud y mae rhiant/gwarcheidwad yn hwyr.