Gofal Cofleidiol

Mae’r Cylch yn darparu gofal cofleidiol o feithrinfa Ysgol Treganna ar gyfer y bore a’r prynhawn.
Os yw eich plentyn yn mynychu sesiwn fore y feithrinfa yn Nhreganna, gall y Cylch fynd i nôl eich plentyn am 11.35 y.b. a’u dychwelyd i fynychu sesiwn prynhawn y Cylch.  Cost ar gyfer hyn yw £17.75 a byddai’n rhaid i chi ddarparu pecyn bwyd ar gyfer eu cinio.

Os yw eich plentyn yn mynychu sesiwn prynhawn yn Ysgol Treganna, gall eich plentyn ddod i sesiwn fore y Cylch a chael cinio yno cyn cael eu cludo draw i Dreganna erbyn 12.45y.p. Cost ar gyfer hyn yw £20.00 a byddai’n rhaid i chi ddarparu pecyn bwyd.